Gwobr Menter Sero Net Orau
Bydd y sector cyhoeddus a’i gadwyn gyflenwi yn chwarae rhan bwysig o ran cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i gael Economi Sero Net erbyn 2050. Mae’r Wobr hon yn cydnabod y sefydliadau hynny sy’n arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy eu gweithgarwch caffael a’r llu o gyflenwyr sydd hefyd yn cyfrannu at sicrhau llwyddiant yn y maes hwn.
Gall mentrau gynnwys pob math o weithgarwch – er enghraifft, lleihau gwastraff ac ailddefnyddio adnoddau sydd eisoes ar gael, adeiladu cynaliadwy, datblygu ffynonellau tanwydd amgen, neu ddatblygiadau arloesol sy’n lleihau ein hôl troed carbon mewn meysydd fel trafnidiaeth. Mae’r ffocws ar arloesi, creadigrwydd, a thystiolaeth o gynnydd gwirioneddol. Croesawir enghreifftiau o gydweithio, er enghraifft cydweithio â chymunedau, y diwydiant, y byd academaidd neu sefydliadau a chyrff eraill sy’n gysylltiedig â’r agenda newid yn yr hinsawdd.
Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a sefydliadau preifat/gwirfoddol o’r tu mewn neu’r tu allan i Gymru gyda chymorth ysgrifenedig gan yr awdurdod sy’n eu noddi ‒ er enghraifft, datganiad ysgrifenedig gydag enw a swydd y noddwr, naill ai yn y cais neu fel atodiad.
Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2023 a mis Mehefin 2024.
Cwestiynau Mynediad
Cefndir
Disgrifiwch y dull cynaliadwy y mae eich sefydliad wedi’i gymryd drwy’r gweithgarwch caffael, gan gynnwys, lle bo’n briodol, o fewn y broses gaffael ei hun. Rhowch fanylion pam y dewiswyd y dull hwn, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol, a’r ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer cyflawni’n llwyddiannus.