Gwobr Doniau’r Dyfodol

Mae Cymru wedi bod yn dir ffrwythlon ar gyfer hyrwyddo caffael cyhoeddus, gyda llawer o enghreifftiau rhagorol o gynnydd a chyflawniad yn cael eu dathlu yng Ngwobrau GO Cymru.

Mae’r Wobr hon yn cydnabod llwyddiannau’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar unigolion sydd ar ddechrau eu gyrfa ym maes caffael cyhoeddus – ni waeth a ydynt yn eu swydd gyntaf neu’n newid gyrfa, ac mae’n cydnabod y rhai sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi nodau sefydliadol a Chenedlaethol.

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector preifat yng Nghymru sydd wedi cael eu henwebu gan awdurdod contractio.

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2023 a mis Mehefin 2024.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch yr ymarfer caffael a gynhaliwyd ac i bwy mae’r contract yn cael ei gyflenwi. Rhowch fanylion pam y gwnaed y caffael, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol, a’r canlyniadau a gyflawnwyd ac a arweiniodd at enwebu’r contractwr ar gyfer y dyfarniad hwn.

Eglurwch y dylanwad rydych chi wedi’i gael ar y swyddogaeth(au) caffael neu’r tîm(au) rydych chi wedi bod yn gweithio gyda nhw, a sut rydych chi wedi cael dylanwad arnynt? Sut mae hyn wedi bod o fudd i’r sefydliad ac i’r rhanddeiliaid ehangach?

Rhowch fanylion menter neu brosiect penodol rydych chi wedi’i gefnogi yn eich swydd caffael, ac esboniwch y gwahaniaeth a’r dylanwad y mae eich cyfraniad penodol chi wedi’i gael ar y fenter/prosiect.

Pa heriau ydych chi’n teimlo fwyaf brwd dros weld caffael yn helpu i’w datrys? Sut mae’r dull rydych chi wedi’i ddefnyddio hyd yma yn dangos hynny?

Pa sgiliau newydd ydych chi wedi’u datblygu neu eu mireinio o ganlyniad i weithio mewn swydd caffael drwy un o’n llwybrau PPoT, a sut mae’r sgiliau hyn yn eich helpu chi a’r tîm rydych chi’n gweithio ynddo?

Ble ydych chi ar eich taith broffesiynol, a sut ydych chi’n cefnogi hynny drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus?