Gwobr Unigolyn y Flwyddyn
Nid yw proffil caffael cyhoeddus erioed wedi bod yn uwch, gyda Brexit, COVID-19 a’r adferiad economaidd i gyd yn canolbwyntio mwy ar gaffael a’r galw am well lefelau perfformiad, effeithiolrwydd, arloesi ac effeithlonrwydd. Ychydig iawn o broffesiynau sy’n cynnig y cyfle i gael cymaint o effaith ar gymdeithas ledled y DU.
Mae Gwobr Unigolyn y Flwyddyn yn cydnabod unigolion sy’n gweld heriau fel cyfleoedd. Mae ar gyfer y rheini sy’n ymdrechu i wella’n barhaus ac sydd â’r weledigaeth a’r dewrder i wneud gwahaniaeth; waeth beth yw eu sefyllfa.
Boed yn cyflawni pethau gwych yn gynnar yn eu gyrfa, neu’n dangos hanes hir o lwyddiant, mae’r categori hwn yn dathlu unigolion sy’n gosod y safon ar gyfer y rheini sy’n dilyn ac sy’n ysbrydoli’r rheini o’u cwmpas.
Mae’r categori hwn yn canolbwyntio ar y manteision gweladwy y gellir eu cael o gaffael eithriadol yn ogystal â chanolbwyntio ar rôl yr unigolyn wrth ddatblygu newid, neu wrth arwain penderfyniadau strategol a sicrhau arbedion ac effeithlonrwydd drwy gaffael.
Mae’n agored i: Unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.
Cwestiynau Mynediad
Rhowch drosolwg o’r unigolyn sy’n cael ei enwebu, gan gynnwys manylion ei gefndir ac a yw’n newydd i’r proffesiwn neu a oes ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu contractau cyhoeddus. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)