Gwobr Cyflawniad Caffael

Mae caffael yng Nghymru yn cynnwys amrywiaeth anhygoel o wasanaethau, cyflenwadau a gwaith sy’n cael eu darparu ledled y wlad gan nifer o sefydliadau ac arbenigwyr caffael.

Mae’r Wobr hon yn canolbwyntio ar y canlyniadau a gafwyd drwy weithgarwch caffael llwyddiannus. Boed hynny drwy ddulliau caffael arloesol, rheoli’r gadwyn gyflenwi’n rhagorol neu ymgysylltu’n wych â rhanddeiliaid a defnyddwyr, mae’n ymwneud â’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni – gyda thystiolaeth i gefnogi unrhyw hawliadau sy’n cael eu gwneud.

Croesawir ceisiadau gan unrhyw sefydliad o unrhyw faint ac mewn unrhyw sector. Rhoddir cydnabyddiaeth i’r ceisiadau hynny sy’n dangos ac yn cyfiawnhau buddion a chanlyniadau yn y byd go iawn orau drwy weithgarwch caffael gwych. 

Mae’n agored i: Sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru

Amserlen: Rhaid i gais Gwobrau GO yn y categori hwn gyfeirio at waith a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng mis Ionawr 2022 a mis Mehefin 2023.

Cwestiynau Mynediad

Cefndir
Disgrifiwch yr ymarfer caffael a gynhaliwyd ac i bwy y mae’r contract yn cael ei gyflawni. Rhowch fanylion pam yr ymgymerwyd â’r gwaith caffael, y nodau a’r elfennau i’w cyflawni a oedd yn ddymunol a’r ffactorau llwyddiant allweddol ar gyfer cyflawni’n llwyddiannus. (Ni fydd yr ateb hwn yn cael ei sgorio)

Pa lefel o ymgysylltu â’r farchnad/cwmpasu’r farchnad a gynhaliwyd, boed hynny yn eich sefydliad eich hun neu gyda defnyddwyr, darparwyr posibl neu unrhyw grwpiau eraill sydd â diddordeb (ee y trydydd sector, y sector gwirfoddol, ac ati) i benderfynu ar y llwybr gorau i’r farchnad a’r canlyniadau yr oedd modd eu cyflawni, ac a yw hyn wedi’ch helpu i ddewis y llwybr caffael gorau i’w ddilyn.

Disgrifiwch unrhyw rwystrau i lwyddiant y daethoch ar eu traws, boed hynny cyn ymgysylltu â’r farchnad, yn ystod yr ymarfer caffael neu wrth weithredu’r contract, ac egluro sut cafodd y rhain eu goresgyn.

Eglurwch y canlyniadau sydd wedi’u cyflawni hyd yma, ers dechrau’r contract ac a yw’r rhain yn cyd-fynd â’r hyn a ragwelwyd ar y dechrau. (Rhowch dystiolaeth empirig i gefnogi eich ateb)

Ym mha feysydd y mae’r contract wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r awdurdod, rhanddeiliaid a/neu ddefnyddwyr, er enghraifft drwy fentrau arloesi neu fentrau cymdeithasol/amgylcheddol, gan gyflawni mwy na’r gofyniad craidd. (Rhowch dystiolaeth i gefnogi hyn)

O ganlyniad i’r broses gaffael hon, ydy’r canlyniadau/manteision hyn wedi cael eu rhannu’n fewnol, ar draws eich sefydliad ac â sefydliadau eraill i helpu i siapio prosesau caffael yn y dyfodol?